top of page

Archif Gŵylgyfoeth 2020-2021
Enrichfest Archive 2020-2021

Gweithgareddau yn Cyfoethogi'r Cwricwlwm

Medi 2020 - Gorffennaf 2021

Activities in Curriculum Enrichment

September 2020 - July 2021

MAWRTH 2021

MARCH 2021

Her Stori Fer Ysgolion Sir Ddinbych

 

‘Unwaith ar stori....’

Rhannu straeon. Rhannu anturiaethau.

 

Ar Ddiwrnod y Llyfr, 4 Mawrth 2021, mae'n bleser gennym gyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Stori Fer Ysgolion Sir Ddinbych.

 

Ym mis Chwefror 2021, aeth Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych ati gyda Gwasanaethau Llyfrgell Sir Ddinbych, i ddathlu Mis Michael Morpurgo. Gwahoddwyd plant mewn ysgolion ar draws y sir i ddarllen a chymryd ysbrydoliaeth o lyfrau Michael Morpurgo, rhoi pen ar bapur a mynd i mewn i her ysgrifennu stori fer.

 

Dywedodd y beirniad cystadleuaeth, Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych, “Mae'r ceisiadau ar gyfer yr her yn dangos bod plant Sir Ddinbych yn ddarllenwyr a bod ganddynt ddychymyg byw go iawn. Mae nhw'n gwybod sut i lunio stori gyffrous gyda chymeriadau cofiadwy, hiwmor a gwefr.”

 

Diolchodd i bawb a anfonodd stori a dweud, “mwynheais eu darllen i gyd a gobeithio y bydd ein holl awduron ifanc yn parhau i ysgrifennu a chreu straeon gwych, wedi'u hysbrydoli gan y llyfrau mae nhw'n eu darllen a'r straeon mae nhw'n eu clywed."

 

Bydd y straeon buddugol yn cael eu cyhoeddi drwy wefan Cyfoethogi Cwricwlwm Sir Ddinbych - www.denbighshireenrichment.com a Borrowbox Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych, i bawb eu darllen a'u mwynhau.

 

Dyma'r rhestr o enillwyr gwobrau:-

 

7-11 oed

 

Gwobr 1af - Elsie Croft, Ysgol Frongoch

 

2il Wobr - Gwen Hayes, Ysgol Frongoch

 

Canmoliaeth Uchel

 

Ella Hayes, Ysgol Frongoch

Oliver Hayes, Ysgol Frongoch

Elin Wilcox-Jones, Ysgol Bro Cinmeirch​

Denbighshire Schools’ Short Story Challenge

 

‘Once Upon A Story….’

Sharing stories. Sharing adventures.

 

On World Book Day, 4 March 2021, we’re delighted to announce the winners of Denbighshire Schools’ Short Story Competition. 

 

In February 2021, Denbighshire Education and Children’s Services teamed up with Denbighshire Library Services, to celebrate Michael Morpurgo Month. They invited children in schools across the county to read and take inspiration from Michael Morpurgo’s books, put pen to paper and enter a short story writing challenge.

 

Competition judge, Bethan Hughes, Denbighshire’s Principal Librarian said, “The entries for the challenge show that children in Denbighshire are readers and have very vivid imaginations. They know how to shape an exciting story with memorable characters, humour and suspense.”

 

She thanked everyone who sent in a story and said, “I enjoyed reading them all and I hope that all our young writers continue to write and create great stories, inspired by the books they read and the stories they hear.”

 

 

The winning stories will be published via the Denbighshire Curriculum Enrichment website - www.denbighshireenrichment.com and Denbighshire Library Service’s Borrowbox, for everyone to read and enjoy.

 

Here’s the list of prize-winners:-

 

7-11 years

 

1st Prize - Elsie Croft, Ysgol Frongoch

 

2nd Prize - Gwen Hayes, Ysgol Frongoch

 

Highly Commended

 

Ella Hayes, Ysgol Frongoch

Oliver Hayes, Ysgol Frongoch

Elin Wilcox-Jones, Ysgol Bro Cinmeirch​

Storïau Fer | Short Stories

Dathliad Blasus ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi

 

Er bod y dathliadau eleni yn wahanol, oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws, mae Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Prydau Ysgol Sir Ddinbych, wedi trefnu her goginio gyffrous ar gyfer plant, pobl Ifanc a’u teuluoedd ar y we ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, pryd gallant ddangos eu sgiliau a'u hangerdd dros goginio drwy ddefnyddio cynhwysion sy'n lleol ac iach.

Gan ddefnyddio eu dychymyg a'u gwybodaeth am fwyd/cynnyrch Cymreig a lleol, gofynnwyd i'r plant greu dysgl yr oeddent yn meddwl y byddai Dewi Sant yn mwynhau ei bwyta - melys neu sawrus.

 

Dywedodd y beirniad cystadleuaeth, Jane Jones, Cogyddes Ysgolion, Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych a Chogydd Cymru y Flwyddyn 2020, "Cawsom ystod drawiadol o geisiadau yn cynrychioli safon ardderchog o waith ac ymdrech. Roedd yr holl brydau a grëwyd gan y plant yn edrych yn wych, gan ddangos defnydd gwych o gynhwysion. Rwy'n edrych ymlaen at roi cynnig ar y ryseitiau hyn yn yr ysgol ac gartref!"

 

Mae'r ryseitiau buddugol wedi'u cyhoeddi ar wefan Cyfoethogi Cwricwlwm Sir Ddinbych - www.denbighshireenrichment.com - i bawb eu mwynhau.

 

Enillwyr Cyffredinol

 

Hyd at 7 oed

  • Sophie Thompson, 5 oed, Ysgol Borthyn

 

7-11 years

  • William Parkes, 9 oed, Ysgol Llywelyn

 

Canmoliaeth Uchel

 

  • Grace Longley, 7 oed, Ysgol Gymunedol Bodnant

  • Kimmi-Leigh Hughes, 11 oed, Ysgol Melyd

  • Max Thompson, 9 oed, Ysgol Plas Brondyffryn

  • Tomos Longley, 10 oed, Ysgol Gymunedol Bodnant

A Tasty Celebration for St David’s Day

 

Although this year’s St David’s Day celebrations were different, due to the coronavirus restrictions, Denbighshire Education and Children’s Services, in partnership with Denbighshire School Meals Service, organised an exciting St David’s Day themed cooking challenge for children, young people and their families, when they could demonstrate their skills and their passion for cooking by using ingredients that are local and healthy.

 

Using their imagination and their knowledge of Welsh and local food/produce, children were asked to create a dish they thought St David would enjoy eating - sweet or savoury.

Competition judge, Jane Jones, School Cook at Ysgol Twm o’r Nant, Denbigh and Wales Cook of the Year 2020, said, “We received an impressive range of entries representing an excellent standard of work and effort. All the dishes created by the children looked terrific, showing great use of ingredients. I’m looking forward to trying these recipes at school and at home!”

The winning recipes have been published on the Denbighshire Curriculum Enrichment website - www.denbighshireenrichment.com - for everyone to enjoy.

 

Overall Winners

 

Up to 7 years

  • Sophie Thompson, Age 5, Ysgol Borthyn

 

7-11 years

  • William Parkes, Age 9, Ysgol Llywelyn

 

Highly Commended

 

  • Grace Longley, Age 7, Bodnant Community School

  • Kimmi-Leigh Hughes, Age 11, Ysgol Melyd

  • Max Thompson, Age 9, Ysgol Plas Brondyffryn

  • Tomos Longley, Age 10, Bodnant Community School

Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi gorau gan blant Sir Ddinbych

Best of St David's Day recipes by Denbighshire children

CHWEFROR 2021

FEBRUARY 2021

'Dysgl y Dydd i Dewi'

'Dish of the Day for David'

Crëwch Ddysgl Dydd Gŵyl Dewi a chwtsh cysurus ar blât!

Create a St David's Day Dish and a comforting cwtch on a plate!

Chwilio am rywbeth hwyliog i'w wneud yr hanner tymor hwn?

 

Beth am fynd i mewn i'n her goginio Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer Ysgolion Sir Ddinbych a chreu dysgl rydych chi'n meddwl y byddai Dewi yn mwynhau ei bwyta - melys neu sawrus!

 

Dathlwch y gorau o fwyd a chynnyrch Cymraeg a lleol, coginio rysáit Gymraeg i gynhesu, creu dysgl berffaith y dydd ar gyfer Dewi Sant a chwtsh cysurus ar blât!

 

Mae'r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim ac mae'n agored i unrhyw un sy'n mynychu ysgolion yn Sir Ddinbych.

 

Mae'r ceisiadau mewn tri chategori oedran - Hyd at 7 oed, 7 i 11 oed a 12 i 14 oed.

 

Bydd y gystadleuaeth yn agor Ddydd Iau 11eg Chwefror a bydd yn cau am hanner dydd Ddydd Iau 25ain Chwefror 2021. Cyhoeddir enillwyr Ddydd Llun 1af Mawrth 2021, i nodi Dydd Gŵyl Dewi.

 

Bydd y ceisiadau buddugol cyffredinol ym mhob categori oedran yn cael Blender Llaw a bydd eu ryseitiau ar gael i'w lawrlwytho ar www.denbighshireenrichment.com

i bawb eu mwynhau.

Looking for something fun to do this half-term?

 

Why not enter our St David’s Day cooking challenge for Denbighshire Schools and create a dish you think David would enjoy eating - sweet or savoury!

Celebrate the best of Welsh and local food and produce, cook up a warming Welsh recipe, create the perfect dish of the day for St David and a comforting cwtch on a plate! 

 

The competition is free to enter and is open to anyone attending schools in Denbighshire.

 

Entries are in three age categories - Up to 7 years, 7 to 11 years and 12 to 14 years.

 

The competition opens on Thursday 11th February and will close at 12 noon on Thursday 25th February 2021. Winners will be announced on Monday 1st March 2021, to mark St David’s Day.

 

The overall winning entries in each age category will be awarded a Hand Blender and their recipes will be available to download on www.denbighshireenrichment.com for everyone to enjoy

Her Creu a Choginio Create & Cook Challenge

Ar gyfer her mis Chwefror, rydym yn ymuno â'n ffrindiau yng Ngwasanaethau Llyfrgell Sir Ddinbych i wahodd plant a phobl ifanc yn ein hysgolion i ddarllen a chymryd ysbrydoliaeth o lyfrau Michael Morpurgo, rhoi sgrifpen ar bapur a rhoi cynnig ar ein her ysgrifennu straeon byrion.

 

Beth am wneud y gorau o'r adnoddau, rhoi cynnig ar ein cwestiynau cwis ac yna bod yn greadigol drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth.

 

Bydd mynediad i'r gystadleuaeth mewn tri chategori oedran - Hyd at 7 oed, 7 i 11 oed a 12-14 oed, gyda dyddiad cau o Ddydd Gwener 26 Chwefror 2021, hanner dydd.

 

Pob lwc!

Cadwch yn Ddiogel, Iach a Chreadigol

Stay Safe, Healthy and Creative

For February’s challenge, we are teaming up with our friends in Denbighshire Library Services to invite children and young people in our schools to read and take inspiration from Michael Morpurgo’s books, put pen to paper and enter our short story writing challenge.

 

Why not make the most of the resources, try our quiz questions and then get creative by entering our competition. 

 

Entry into the competition will be in three age categories - Up to 7 years, 7 to 11 years and 12-14 years, with a closing date of Friday 26 February 2021, 12 noon

 

Good luck!

Her MIS CHWEFROR

FEBRUARY Challenge

IONAWR 2021

Plant Ysgol Sir Ddinbych yn Codi Calon gyda Her Dydd Santes Dwynwen

JANUARY 2021

Denbighshire School Children Take Heart with a St Dwynwen’s Day Challenge

Er bod ysgolion yn parhau i fod ar gau i'r rhan fwyaf o ddisgyblion hyd nes y clywir yn wahanol, mae Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych yn benderfynol o barhau i gynnig cyfleoedd i blant a'u teuluoedd ymgysylltu'n greadigol â nhw ar-lein. Maen nhw'n gobeithio y bydd eu heriau misol - ‘Gadewch i ni fod yn GREAD-igol!’ - fod yn help i godi ysbryd a chynorthwyo gyda dysgu ar-lein mewn ffordd heriol, greadigol a difyr.

 

Roedd her greadigol mis Ionawr yn gwahodd disgyblion Sir Ddinbych i ddysgu am Ddydd Santes Dwynwen, yr hyn sy'n cyfateb i Ddydd Sant Ffolant yng Nghymru a dylunio eu cerdyn cyfarch eu hunain. Wedi'i ddathlu bob blwyddyn ar 25 Ionawr, mae Dydd Santes Dwynwen yn dathlu nawddsant cariadon Cymru ac mae’r achlysur wedi codi mewn poblogrwydd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chariadon yn cyfnewid anrhegion fel llwyau cariad Cymreig a hyd yn oed cynhelir cyngherddau a phartïon ar y dyddiad hwnnw.

 

Ymatebodd dros gant o blant ysgol Sir Ddinbych i'r gystadleuaeth ac roedd safon y ceisiadau mor uchel fel ei bod hi’n anodd cynhyrchu rhestr fer a hyd yn oed yn anos dewis enillwyr. Cymerodd gryn amser i'r beirniad - Manon Celyn, Swyddog Iaith Gymraeg Cyngor Sir Ddinbych - ddod i'w phenderfyniad ond yn y pen draw dewisodd 3 enillydd cyffredinol:-

 

 

Hyd at 7 mlynedd:

  • BRONAGH  COOKE, Ysgol Gymraeg y Gwernant, Llangollen

 

7 i 11 oed:

  • GRACE ALLSOPP, Ysgol Bryn Hedydd, Y Rhyl

 

12 i 14 oed:

  • EMMA DALLIMORE, Ysgol Santes Ffraid, Dinbych

 

“Mae hi wedi bod yn fraint beirniadu’r gystadleuaeth hon ac rwyf wedi ei mwynhau'n fawr," meddai Manon Celyn. “Mae'r safon wedi bod yn uchel ac wedi gwneud y dewis yn anodd. Mae gan blant Sir Ddinbych dalent ac mae dyfodol disglair o'ch blaen. Mae pob ymgais unigol yn rhagori mewn un agwedd neu'i gilydd, felly yr wyf wedi gorfod dewis y rhai sydd wedi llwyddo i ymdrin â phob agwedd. Daliwch ati!”

Whilst schools remain closed to most pupils until further notice, Denbighshire Education and Children’s Services are determined to continue offering opportunities for children and their families to engage creatively with them online. They hope their monthly challenges - ‘Let’s get CREAT-ive!’ - will help lift spirits and assist with online learning in a challenging, creative, and entertaining way.

 

January’s creative challenge invited Denbighshire pupils to find out about St Dwynwen’s Day, the Welsh equivalent of Valentine’s Day and design their very own greetings card. Celebrated every year on 25 January, St Dwynwen’s Day commemorates the Welsh saint of lovers and has risen in popularity in Wales in recent years, with lovers exchanging gifts such as Welsh love spoons and even concerts and parties are held on that date.

 

 

Over one hundred Denbighshire school children responded to the competition and entries were of so high a standard that it was difficult to produce a shortlist and even tougher to select winners. It took the judge - Manon Celyn, Denbighshire County Council’s Welsh Language Officer - considerable time to reach her decision but she eventually came up with 3 overall winners:-

 

Up to 7 years: 

  • BRONAGH COOKE, Ysgol Gymraeg y Gwernant, Llangollen

 

7 to 11 years:  

  • GRACE ALLSOPP, Ysgol Bryn Hedydd, Rhyl

 

12 to 14 years:

  • EMMA DALLIMORE, St Brigid’s School, Denbigh

“It’s been a privilege to judge this competition and I’ve really enjoyed it,” said Manon Celyn. “The standard has been high and has made the choice difficult. The children of Denbighshire have talent and there is a bright future ahead of you. Every single attempt excels in one aspect or another, so I have had to choose those who have managed to cover all aspects. Keep going!”

Blwyddyn Newydd Dda a gobeithiwn eich bod yn cadw'n ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod pellach hwn o gyfyngiadau symud cenedlaethol yng Nghymru.

 

Er bod ysgolion yn parhau i fod ar gau i'r rhan fwyaf o ddisgyblion hyd nes y clywir yn wahanol, rydym yn benderfynol o barhau i gynnig cyfleoedd i ddisgyblion a'u teuluoedd ymgysylltu â Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych ar-lein. Gobeithiwn y bydd ein heriau creadigol yn helpu i godi calonau a chynorthwyo gyda dysgu ar-lein mewn ffordd heriol, greadigol a difyr.

HERIAU NEWYDD MISOL

Cymerwch olwg ar ein heriau newydd misol - mae un mis Ionawr i gyd am Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Beth am wneud y gorau o'n hadnoddau i annog eich disgyblion i gael gwybod mwy am Santes Dwynwen, rhoi cynnig ar ein cwestiynau cwis ac yna bod yn greadigol drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth.

Bydd mynediad i'r gystadleuaeth mewn tri chategori oedran - hyd at 7 oed, 7 i 11 oed a 12-14 oed, gyda dyddiad cau o Ddydd Iau 21 Ionawr 2021, 5yp.

 

Pob lwc!

Happy New Year and we hope that you are keeping safe and well during this further period of national lockdown in Wales.

 

 

Whilst schools remain closed to most pupils until further notice, we are determined to continue offering opportunities for pupils and their families to engage with Denbighshire Education and Children Services online. We hope our creative challenges will help lift spirits and assist with online learning in a challenging, creative, and entertaining way.

NEW MONTHLY CHALLENGES

Take a look at our new monthly challenges - January’s is all about St Dwynwen, the Welsh patron saint of lovers. Why not make the most of our resources to encourage your pupils to find out more about St Dwynwen, try our quiz questions and then get creative by entering our competition.

Entry into the competition will be in three age categories - up to 7 years, 7 to 11 years and 12-14 years, with a closing date of Thursday 21 January 2021, 5pm. 

 

Good luck!

Adnoddau Santes Dwynwen

St Dwynwen Resources

Her MIS IONAWR

JANUARY Challenge

Tachwedd 2020

Ysgolion Sir Ddinbych Unedig yn Erbyn Bwlio

 

Mae disgyblion wedi bod yn dysgu a dangos sut gallant uno yn erbyn Bwlio

Wythnos Gwrth-Fwlio 2020: 'Unedig yn Erbyn Bwlio'

16-20 Tachwedd 2020

 

"Y darnau bach sy'n gwneud y darlun mawr bob amser."

 

Bob blwyddyn, ym mis Tachwedd, mae ysgolion y DU a'r gymuned gwrth-fwlio yn dathlu Wythnos Gwrth-Fwlio, wedi'i chydgysylltu gan y Gynghrair Gwrth-Fwlio a Llywodraeth Cymru.

 

Bydd wythnos Gwrth-Fwlio yn digwydd o Ddydd Llun 16 - Dydd Gwener 20 Tachwedd 2020.  Thema eleni yw ‘Unedig yn Erbyn Bwlio’.  Allwn ni ddim meddwl am thema fwy addas yn sgil COVID-19, na chymryd safiad yn erbyn bwlio, wrth i ysgolion ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd a dod at ei gilydd ar-lein.

 

Mae Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i ddarparu adnoddau a gweithgareddau trawsgwricwlaidd.  Drwy gynllunio cyfres o gystadlaethau cyffrous, gweithdai rhyngweithiol a Holi ac Ateb, ei nod yw helpu myfyrwyr i ddeall effeithiau bwlio ac archwilio ffyrdd creadigol o fynd i'r afael ag ef.  Mae'r holl adnoddau wedi'u teilwra i sicrhau y gellir eu darparu wyneb yn wyneb ac ar-lein a byddant yn galluogi disgyblion i gymryd rhan i hyrwyddo cymdeithas ddi-fwlio drwy gydol eu hysgol – drwy’r flwyddyn.

Un o hoff ddyddiau'r Wythnos Gwrth-Fwlio yw ‘Diwrnod Sanau Od’ a fydd eleni'n cael ei gynnal Ddydd Llun 16 Tachwedd 2020.  Bydd ‘Diwrnod Sanau Od 2020’ yn gyfle gwych i ddathlu gwahaniaeth, ac mae'n hawdd i bawb yn yr ysgol neu yn eu gwaith gymryd rhan a gwisgo sanau od i ddathlu'r hyn sy'n gwneud pob un ohonom yn unigryw.

 

Rydym yn edrych ymlaen at weld ysgolion yn ymuno â ni ym mis Tachwedd eleni ar gyfer Wythnos Gwrth-Fwlio.  Rydyn ni i gyd yn ddarn yn y jig-so, a gyda'n gilydd, rydyn ni'n unedig yn erbyn bwlio!

November 2020

Denbighshire Schools United Against Bullying

 

Pupils have been learning & showing how they can unite against bullying

Anti-Bullying Week 2020: ‘United Against Bullying’

16-20 November 2020

 

“It’s always the small pieces that make the big picture.”

 

Every year, in November, UK schools and the Anti-Bullying community celebrate Anti-Bullying Week, coordinated by the Anti-Bullying Alliance and Welsh Government.

 

Anti-Bullying Week will be happening from Monday 16th - Friday 20th November 2020.  This year’s theme is ‘United Against Bullying’.  We can’t think of a more fitting theme in the wake of COVID-19, than to take a stand against bullying, as schools start the new academic year and come together online.

 

Denbighshire Education & Children’s Services has been working with schools, to provide resources and cross-curricular activities.  Designing a series of exciting competitions, interactive workshops and Q&As, its aim is to help students understand the effects of bullying and explore creative ways to tackle it.  All resources have been tailored to ensure they can be delivered both face to face and online and will enable pupils to get involved to promote a bully-free society throughout their school - year round.

One of the favourite days in Anti-Bullying Week is ‘Odd Socks Day’ which this year will take place on Monday 16 November 2020.  ‘Odd Socks Day 2020’ will be a great opportunity to celebrate difference, and it’s easy for everyone at school or work to get involved and wear odd socks to celebrate what makes each and every one of us unique.

 

We are looking forward to schools joining us this November for Anti-Bullying Week.  We’re all a piece in the puzzle, and together, we’re united against bullying!

Cystadleuaeth Rap/Hip-Hop Ysgolion Sir Ddinbych 2020

Denbighshire Schools Rap/Hip-Hop Competition 2020

 

Enillwyr Cyfansoddiadau Cymraeg

Welsh Composition Winners

YSGOL Y LLYS

Enillwyr Cyfansoddiadau Saesneg

English Composition Winners

YSGOL LLYWELYN (6FW)

bottom of page