top of page

Beth sy'n digwydd yn Iechyd a Lles

Tachwedd 2020

Ysgolion Sir Ddinbych Unedig yn Erbyn Bwlio

 

Mae disgyblion wedi bod yn dysgu a dangos sut gallant uno yn erbyn Bwlio

Wythnos Gwrth-Fwlio 2020: 'Unedig yn Erbyn Bwlio'

16-20 Tachwedd 2020

 

"Y darnau bach sy'n gwneud y darlun mawr bob amser."

 

Bob blwyddyn, ym mis Tachwedd, mae ysgolion y DU a'r gymuned gwrth-fwlio yn dathlu Wythnos Gwrth-Fwlio, wedi'i chydgysylltu gan y Gynghrair Gwrth-Fwlio a Llywodraeth Cymru.

 

Bydd wythnos Gwrth-Fwlio yn digwydd o Ddydd Llun 16 - Dydd Gwener 20 Tachwedd 2020.  Thema eleni yw ‘Unedig yn Erbyn Bwlio’.  Allwn ni ddim meddwl am thema fwy addas yn sgil COVID-19, na chymryd safiad yn erbyn bwlio, wrth i ysgolion ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd a dod at ei gilydd ar-lein.

 

Mae Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i ddarparu adnoddau a gweithgareddau trawsgwricwlaidd.  Drwy gynllunio cyfres o gystadlaethau cyffrous, gweithdai rhyngweithiol a Holi ac Ateb, ei nod yw helpu myfyrwyr i ddeall effeithiau bwlio ac archwilio ffyrdd creadigol o fynd i'r afael ag ef.  Mae'r holl adnoddau wedi'u teilwra i sicrhau y gellir eu darparu wyneb yn wyneb ac ar-lein a byddant yn galluogi disgyblion i gymryd rhan i hyrwyddo cymdeithas ddi-fwlio drwy gydol eu hysgol – drwy’r flwyddyn.

Un o hoff ddyddiau'r Wythnos Gwrth-Fwlio yw ‘Diwrnod Sanau Od’ a fydd eleni'n cael ei gynnal Ddydd Llun 16 Tachwedd 2020.  Bydd ‘Diwrnod Sanau Od 2020’ yn gyfle gwych i ddathlu gwahaniaeth, ac mae'n hawdd i bawb yn yr ysgol neu yn eu gwaith gymryd rhan a gwisgo sanau od i ddathlu'r hyn sy'n gwneud pob un ohonom yn unigryw.

 

Rydym yn edrych ymlaen at weld ysgolion yn ymuno â ni ym mis Tachwedd eleni ar gyfer Wythnos Gwrth-Fwlio.  Rydyn ni i gyd yn ddarn yn y jig-so, a gyda'n gilydd, rydyn ni'n unedig yn erbyn bwlio!

What's happening in Health & Well-being

November 2020

Denbighshire Schools United Against Bullying

 

Pupils have been learning & showing how they can unite against bullying

Anti-Bullying Week 2020: ‘United Against Bullying’

16-20 November 2020

 

“It’s always the small pieces that make the big picture.”

 

Every year, in November, UK schools and the Anti-Bullying community celebrate Anti-Bullying Week, coordinated by the Anti-Bullying Alliance and Welsh Government.

 

Anti-Bullying Week will be happening from Monday 16th - Friday 20th November 2020.  This year’s theme is ‘United Against Bullying’.  We can’t think of a more fitting theme in the wake of COVID-19, than to take a stand against bullying, as schools start the new academic year and come together online.

 

Denbighshire Education & Children’s Services has been working with schools, to provide resources and cross-curricular activities.  Designing a series of exciting competitions, interactive workshops and Q&As, its aim is to help students understand the effects of bullying and explore creative ways to tackle it.  All resources have been tailored to ensure they can be delivered both face to face and online and will enable pupils to get involved to promote a bully-free society throughout their school - year round.

One of the favourite days in Anti-Bullying Week is ‘Odd Socks Day’ which this year will take place on Monday 16 November 2020.  ‘Odd Socks Day 2020’ will be a great opportunity to celebrate difference, and it’s easy for everyone at school or work to get involved and wear odd socks to celebrate what makes each and every one of us unique.

 

We are looking forward to schools joining us this November for Anti-Bullying Week.  We’re all a piece in the puzzle, and together, we’re united against bullying!

Cystadleuaeth Rap/Hip-Hop Ysgolion Sir Ddinbych 2020

Denbighshire Schools Rap/Hip-Hop Competition 2020

 

Enillwyr Cyfansoddiadau Cymraeg

Welsh Composition Winners

YSGOL Y LLYS

Enillwyr Cyfansoddiadau Saesneg

English Composition Winners

YSGOL LLYWELYN (6FW)

bottom of page